|
1,(2),3,4. Mi ymddiriedaf yn ei Air, Er cymmaint yw fy mai; Ac fe derfynwyd dydd ac awr, Pan gaffwy'm gwir ryddhau. O gwna fi'n ffyddlon yma o hyd, A'm lefel at dy glod; Ac na fo pleser fyn'd a mryd, A welwyd is y rhod. N'ad fi foddloni ar rhyw rith O grefydd heb ei grym: Ond gwir adnabod Iesu Grist Yn fywyd anwyl im'. Plant ydym eto dan ein hoed, Yn dysgwyl am y 'stâd; Mae'r etifeddiaeth ini'n dod, Wrth Destament ein Tad. [DJ]
Mi ymddiriedaf yn ei air
Er cymmaint yw fy mai,
Fe benderfynwyd dydd ac awr
Im' gael fy llwyr ryddhau.
Esgyn a wnaeth i entrych ne'
I eiriol dros y gwan,
Fy enaid innau a dynn efe
I'w fynwes yn y man.
Mae'n eistedd ar
ddeheulaw'r Tad,
Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae'r cyfan sydd mewn bod
Dan ei awdurdod ef.
Gadawodd y llieiniau'n ol,
Yn arwydd llawn i ni,
Na raid wrth wisgoedd
o un rhyw
Yn y baradwys fry.
Fe sai' gyfammod sicr ef
Yn gadarn yn ei rym,
Pan f'o pob cysur îs y ne'
Wedi diflannu'n ddim.
O gwna ni'n ffyddlon yma o hyd,
A'n lefel at dy glod;
Ac na f'o pleser
fyn'd â'n bryd,
A welwyd îs y rhod.
Dod yn ein genau fawl ar g'oedd,
And in our yspryd dân;
Ac yn mheryglon anial dir,
Erfyniau pur a chân.
William Williams 1717-91[DJ]: Dafydd Jones 1711-77 Tôn [MC 8686]: Suffolk (<1829) gwelir: Esgyn a wnaeth i entrych nef Goleuni ac anfeidrol rym Iesu yw tegwch mawr y byd Mae brodyr i mi aeth y'mlaen Mae yn yr Iesu drysor mwy Mi dafla'm baich i lawr yn llwyr N'âd fi foddloni ar ryw rith O gwelwn gariad Crist mor fawr Plant ydym eto dan ein hoed 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell Tystiolaeth gadarn Brenin nef |
I will trust in his Word, Despite how great is my fault; And the day and the hour are determined, When I shall get my true setting free. Oh, make me faithful here always, And my aim at thy praise; And let no pleasure take my attention, Which is seen below the sky. Do not let me be enjoy any kind of thing From belief without its force: But truly to know Jesus Christ As a dear life to me. Children are we still under age, Waiting for the estate; The inheritance to us is coming, According to the Testament of our Father.
I will trust in his word
Despite how great is my fault,
Decided have been the day and hour
For me to get my total freeing.
Ascend he has to the vault of heaven
To intercede for the weak,
My own soul he shall draw
To his breast soon.
He is sitting on the right
hand of the Father,
On the great throne of heaven;
And the whole of what is in being is
Under His authority.
He left the linen cloths behind,
As a full sign to us,
That there is no need of
clothing of any kind
In the paradise above.
His sure covenant shall stand
Firm in its force,
When every comfort under heaven
Has disappeared to nothing.
Oh, make us faithful here always,
And our aim at thy praise;
And may no pleasure take
away our attention,
That is seen under the sky.
May public praise come to be in our mouths,
And in our spirit fire;
And in the perils of a desert land,
Pure petition and song.
tr. 2014 Richard B Gillion
|
|